Diffynnydd
Pan gyhuddir rhywun o drosedd, fe'i gelwir yn ddiffynnydd. Mae'r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn sicrhau bod unrhyw un a gaiff ei gyhuddo o drosedd yn ddieuog hyd nes y'i profir yn euog gan y llysoedd. Os bydd y llys yn cael y diffynnydd yn euog ac yn ei gollfarnu, gelwir y person hwnnw yn droseddwr.
Os yw'r heddlu wedi eich cyhuddo neu'ch collfarnu o drosedd, mae gennych yr hawl i gael cynrychiolaeth gyfreithiol. I gael gwybodaeth am gynrychiolaeth gyfreithiol, gellir llwytho taflenni o wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Defnyddiwch y cyswllt ar y dde i gael rhagor o wybodaeth.
Mae fersiwn Saesneg y safle hwn yn rhoi trosolwg o'r prosesau o arestio rhywun i'w collfarnu a mynd i'r llys. Yn anffodus, ni allwn ddarparu'r holl wybodaeth ar y safle hwn yn Gymraeg. Fodd bynnag mae rhywfaint o'r cynnwys ar gael mewn taflenni Cymraeg y gellir eu llwytho ar ochr dde'r dudalen hon.