Llwytho ilawr

Cydweithio i Leihau Troseddu a Chyflawni Cyfiawnder

Cynllun Strategol ar gyfer 2008 - 2011 Arolwg

Crynodeb O'r Cynllun Strategol Ar Gyfer Cyfiawnder Troseddol 2004-08

Y System Cyfiawnder Troseddol Cynllun Busnes 2007/08

Canllaw Prosiect - Canllaw Ategol i Gynllun Busnes y System Cyfiawnder Troseddol 2007/08

Y System Cyfiawnder Troseddol

Ar draws y System Cyfiawnder Troseddol, mae asiantaethau fel yr Heddlu, y Llysoedd, y Gwasanaeth Carchardai, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn cydweithio i weinyddu'r broses cyfiawnder troseddol.

Caiff gwaith yr asiantaethau hyn ei oruchwylio gan dair adran o'r llywodraeth: y Swyddfa Gartref, Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol a'r Adran Materion Cyfansoddiadol.

Mae'r adrannau a'r asiantaethau hyn yn cydweithio i ddiwygio a gwella'r system cyfiawnder troseddol er mwyn:

  • Atal a chanfod mwy o drosedd
  • Rhoi mwy o gymorth i ddioddefwyr a thystion
  • Cosbi ac ailsefydlu mwy o droseddwyr

Eich Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol (y Bwrdd) sydd wrth y llyw o ran blaenoriaethau allweddol i ostwng troseddau a gweinyddu cyfiawnder yn eich ardal. Yn benodol, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fodloni'r amcanion canlynol yn lleol mewn perthynas รข'r System Cyfiawnder Troseddol:

  • Gwella'r broses o weinyddu cyfiawnder;
  • Gwella'r gwasanaeth a ddarperir i ddioddefwyr a thystion;
  • Cynyddu hyder y cyhoedd

I gael rhagor o wybodaeth am eich Bwrdd cliciwch ar y cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon.

Yn anffodus ni allwn ddarparu'r holl wybodaeth ar y safle hwn yn Gymraeg. Fodd bynnag mae rhywfaint o'r cynnwys ar gael mewn taflenni Cymraeg y gellir eu llwytho ar ochr dde'r dudalen hon.

DirectGov