Llwytho ilawr

Rhoi datganiad tyst i'r heddlu – beth sy'n digwydd nesaf?

Tyst yn y llys

Tystion

Mae tystion yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu'r Heddlu i ddatrys troseddau a gweinyddu cyfiawnder. Ni all y system cyfiawnder troseddol weithio hebddynt.

Efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth fel tyst os ydych:

  • Yn gwybod rhywbeth am drosedd neu ddigwyddiad
  • Yn ddioddefwr trosedd
  • Yn meddu ar wybodaeth arbenigol am bwnc (tyst arbenigol)
  • Yn adnabod un o'r bobl sy'n ymwneud â'r achos (os felly gallech gael eich galw fel tyst cymeriad)

Mae llawer o bobl yn ansicr o ran beth sy'n digwydd mewn achos troseddol ac efallai y byddant yn pryderu am ddod ymlaen neu roi tystiolaeth mewn llys.

Mae fersiwn Saesneg y wefan hon yn darparu gwybodaeth am yr help a'r cymorth sydd ar gael i dystion troseddau yn ogystal â beth i'w ddisgwyl o'r adeg pan hysbysir yr heddlu o drosedd i beth sy'n digwydd yn y llys a rhoi tystiolaeth. Yn anffodus, ni allwn ddarparu'r holl wybodaeth ar y safle hwn yn Gymraeg. Fodd bynnag mae rhywfaint o'r cynnwys ar gael mewn taflenni Cymraeg y gellir eu llwytho ar ochr dde'r dudalen hon.

DirectGov